Enghraifft o'r canlynol | cysyniad |
---|---|
Math | hunaniaeth |
Mae hunan arall (alter ego yn Lladin) yn hunan y credir sy'n wahanol i wir bersonoliaeth yr unigolyn. Er mwyn dod o hyd i'r hunan arall, bydd angen dod o hyd i hunan ar wahân, un sydd â phersonoliaeth wahanol.
Mae ystyr neilltuol i'r hunan arall i'w gweld mewn beirniadaeth lenyddol a ddefnyddir wrth gyfeirio at lenyddiaeth ffuglen a ffurfiau naratif eraill, gan ddisgrifio cymeriad allweddol mewn stori y tybir ei bod yn gynrychioliadol fwriadol o awdur (neu grëwr) y gwaith, yn rhinwedd y tebygrwydd o ran seicoleg, ymddygiad, lleferydd, neu feddyliau, a ddefnyddir yn aml i gyfleu meddyliau'r awdur ei hun. Mae'r term hefyd weithiau, ond yn llai aml, yn cael ei ddefnyddio i ddynodi "efaill" neu "ffrind gorau" damcaniaethol i gymeriad mewn stori. Yn yr un modd, gellir cymhwyso'r term hunan arall i'r rôl neu'r persona a gymerir gan actor[1] neu gan fathau eraill o berfformwyr.
Bathodd Cicero y term alter ego fel rhan o'i adeiladwaith athronyddol yn Rhufain y ganrif gyntaf, ond disgrifiodd ef fel "ail hunan, ffrind yr ymddiriedir ynddo".[2]
Yn y 18g y cafodd bodolaeth yr "hunan arall" ei gydnabod yn llawn am y tro cyntaf, pan ddefnyddiodd Anton Mesmer a'i ddilynwyr hypnosis i'w wahanu oddi wrth yr hunan arferol.[3] Dangosodd yr arbrofion hyn batrwm ymddygiad a oedd yn wahanol i bersonoliaeth yr unigolyn pan oedd yn y cyflwr effro o'i gymharu â phan oedd dan hypnosis. Roedd cymeriad arall yn datblygu yng nghyflwr newidiol yr ymwybyddiaeth ond yn yr un corff.[4]
Trwy gydol ei yrfa, bu Freud yn cyfeirio at achosion o ymwybyddiaeth ddeuol i gefnogi ei thesis o'r anymwybod.[5] Roedd Freud yn credu bod gwreiddiau ffenomen yr hunan arall i'w canfod yng nghyfnod narsisaidd plentyndod cynnar.[6] Adnabu Heinz Kohut angen penodol yn y cyfnod cynnar hwnnw i adlewyrchu, gan un arall a fyddai'n arwain yn ddiweddarach at yr hyn a alwodd yn “drosglwyddiad gefeillio neu hunan arall”.[7]
Mae cysyniadau cysylltiedig yn cynnwys avatar, doppelgänger, a dynwaredwr.